The South Wales Police & Crime Commissioner has launched his annual community survey. The aim of the survey is to seek feedback from the public about:

  • what can be improved to make people feel safe wherever they live, work, or spend time in South Wales
  • their views and experiences of engaging with the police in their local area
  • their views on the options being considered for the policing element of council tax payments (the “precept”).

The results from this survey will be helpful as part of the decision making for setting the 2023/24 police precept, as well as the way we pursue the delivery of Neighbourhood Policing and Community Safety work. It will provide the Commissioner and his team with a broader understanding of the issues making people feel unsafe and how we work with the police and local organisations to better understand where and how resources should be targeted to keep communities safe and provide reassurance.  

The Commissioner is committed to ensuring that we hear the views of as many people as possible and would appreciate your support as community representatives to encourage people in your areas to take part before the survey closes on Tuesday 13th December 2022. I would really value it if you will support this approach by promoting and circulating the survey to your constituents via whatever mechanisms and forums that you have in place.

Attached posters and graphics, which promote the various ways of taking part in the consultation. Alternatively, details of how to take part in the survey are included below:

SWP We want your feedback Welsh Oct 22

SWP We want your feedback English Oct 22

Online survey: Our Police, Our Community Survey 2022 (southwalescommissioner.org.uk)

Request a paper copy: 01656 869366 / This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru wedi lansio ei arolwg cymunedol blynyddol. Nod yr arolwg yw gofyn am adborth gan y cyhoedd am:

  • yr hyn y gellir ei wella i wneud i bobl deimlo'n ddiogel ble bynnag maen nhw'n byw, yn gweithio, neu'n treulio amser yn Ne Cymru
  • eu barn a'u profiadau o drafod gyda'r heddlu yn eu hardal leol
  • eu barn am yr opsiynau sy'n cael eu hystyried ar gyfer yr elfen blismona o daliadau treth gyngor (y "praesept").

Bydd canlyniadau'r arolwg hwn yn ddefnyddiol fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer gosod praesept heddlu 2023/24, yn ogystal â'r ffordd yr ydym yn mynd ati i ddarparu gwaith Plismona Cymdogaeth a Diogelwch Cymunedol. Bydd yn rhoi dealltwriaeth ehangach i'r Comisiynydd a'i dîm o'r materion sy'n gwneud i bobl deimlo'n anniogel a sut rydym yn gweithio gyda'r heddlu a'r sefydliadau lleol i ddeall yn well ble a sut y dylid targedu adnoddau i gadw cymunedau'n ddiogel a darparu sicrwydd. 

Mae'r Comisiynydd wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn clywed barn cynifer o bobl â phosib, a byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth fel cynrychiolwyr cymunedol i annog pobl yn eich ardaloedd i gymryd rhan cyn i'r arolwg gau ddydd Mawrth 13 Rhagfyr 2022. Byddwn wir yn ei werthfawrogi os byddwch yn cefnogi'r dull hwn drwy hyrwyddo a chylchredeg yr arolwg i'ch etholwyr drwy ba bynnag fecanweithiau a fforymau sydd gennych ar waith. 

Dwi wedi atodi posteri a graffeg, sy'n hyrwyddo'r gwahanol ffyrdd o gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Fel arall, mae'r manylion ynglŷn â sut i gymryd rhan yn yr arolwg wedi'u cynnwys isod: 

Arolwg ar-lein: Ein Heddlu, Ein Cymuned 2022 (southwalescommissioner.org.uk)

Gofynnwch am gopi papur: 01656 869366 / This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.